Tuesday 29 July 2008


English Below


Neges gan Jim O'Rourke

Gyfeillion
Nodyn i atgoffa am gyngerdd yng Nghaerdydd ar Nos Sadwrn 2il o Awst yn Theatr yr Urdd ( Canolfan y Mileniwm)- ar ddechrau Eisteddfod Caerdydd- dyma ‘r tro cyntaf i fi canu yn fwy gyda band ers Taith “ Y Bont” yn 1987 ac mae’r noson i lansio CD o fy nghaneuon gyda Rocyn, Yr Hoelion 8 a’r Bont yn ystod yr 80au sy wedi ei rhyddhau yn ddiweddar gan Sain.
Bydd y set yn cynnwys hen ffefrynnau fel Sosej Bins a Chips a Tomen o Wallt yn Waelod y Bath ond hefyd caneuon gyda neges fwy gwleidyddol fel Y Cowboi, a’r Malvinas o’r record Pentigili yn ogystal â chaneuon fel Sir Benfro, Heddiw a Hen Wlad Dacu , John O’Rourke a Deg mewn Bedd sy’n son am fy nghyswllt personol gydag Iwerddon.
Dwi wedi bod yn paratoi ers tro nawr ac wedi ail ffurfio “Yr Hoelion 8” ar gyfer y cyngerdd yma ac un ymddangosiad arall ar faes y Steddfod am hanner dydd ar ddydd Sul y 3ydd Awst ac yna yn ystod Gaeaf 2008-09 rwy’n gobeithio gwneud mwy o gyngherddau ar ben fy hun a gyda’r band . Dwi wedi bod yn siarad hefyd gyda Davy Spillane y pibydd enwog o County Clare ac yn gobeithio bydd e yn ymuno gyda’r Hoelion 8 am rai cyngherddau yn 2009!
Hefyd yn y cyngerdd bydd perfformiad gan Einir Dafydd o ardal y Preselau yn Sir Benfro- Enillydd Waw Ffactor yn 2006 a Chan i Gymru yn 2007 sydd wedi rhyddhau dwy CD ac ennill cryn glod fel cantores a chyfansoddwraig ddawnus- roedd mam Einir ( Catrin) yn canu lleisiau cefndir ar y Bont ac mae’n braf atgyfodi fy nghyswllt gyda chyfeillion yn Sir Benfro ar gyfer y cyngerdd yma ar Awst 2il..
Falle bod gennych atgofion melys o gigs yn Blaendyff, Clwb Tanybont neu’r Eisteddfodau yn Abergwaun a Lambed ar ddechrau’r 80au a bydd e’n braf i weld hen gyfeillion yn ymuno gyda ni i ail fwy cyfnod yr 80au trwy’r hen ganeuon sy dal yn syndod o berthnasol heddiw. Mae 'na groeso wrth gwrs i rai sy’n iau na hynny hefyd !!
Byddaf yn ddiolchgar os allwch basio'r neges yma ymlaen i’ch ffrindiau ac unrhyw un all fod â diddordeb sy falle yn mynd i’r Steddfod yng Nghaerdydd ar ddechrau’r wythnos
Diolch yn fawr - dim ond 150 o docynnau sy ar gael ac felly bydd e’n syniad i bobl cael nhw yn fuan trwy gyswllt gyda’r Canolfan yr Urdd yng Nghaerdydd (02920 635678 neu e bost i alun@urdd.org)
Bydd y noson yn cychwyn am 8.00 a gorffen erbyn tua 11.00
Gan edrych ymlaen at eich cwmni,
Cofion caredig,
Jim


--------------------


This is a Welsh message by singer songwriter Jim O'Rourke, informing his fans that he will be performing a come-back gig in Cardiff at the Urdd theatr on Saturday August 2 at 8pm. Tickets (limited to 150): 02920 635678; alun@urdd.org.

No comments: