Thursday 5 June 2008

Ffliwtiau / Flutes




English Below


Mae Ty Siamas wedi bod yn cynnal cyfres o weithdai a dosbarthiadau ffliwt ers dros blwyddyn bellach yn Nhy Siamas ac yn yr ysgol gynradd lleol.


Mae dwsin o oedolion a thros 70 o blant wedi cael budd o'r prosiect yn gwneud a chwarae ffliwtiau.


Wrth gwrs mae gan y ffliwt berthynas agos a Dolgellau, oblegid yr oedd Ioan Rhagfyr, ffliwtydd arbennig yn ei ddydd, yn wr o Ddolgellau, ac ef a gyfansoddodd (neu oleiaf oedd y cyntaf i nodi ar bapur) yr alaw a enwodd yn 'Dolgellau Minuet'.


Bydd y gwersi yma yn cael eu dathlu mewn cyngerdd arbennig yma yn Nhy Siamas nos Fercher nesaf, 11eg Mehefin, gyda disgyblion y dosbarthiadau ffliwt o bob oedran yn perfformio gyda Ceri, Julie Murphy, Christine Cooper a Sild.


Mae hon am fod yn noson arbennig, a gobeithio mai hon fydd y profiad cyntaf o nifer i'r plant yma gael perfformio'n gyhoeddus.


Mercher 11 Mehefin 7.30pm

£3 oedolion; £2 plant


------------------------------------

Over the last year Ty Siamas has organised a series of flute classes in the centre and in the local primary school.

A dozen adults and over 70 children have benefited from the flute project.

The flute has close ties with Dolgellau. The renowned flautist and composer of the Dolgellau Minuet (or at least the first person to pen the tune down on paper) was Ioan Rhagfyr of Dolgellau.

These lessons will be celebrated in a concert at Ty Siamas next Wednesday, 11th June, with pupils of all ages performing with Ceri Rhys Matthews, Julie Murphy, Christine Cooper, and Sild.

This will be a great evening and hopefully the first experience of many for them performing in front of an audience.

Wednesday June 11th 7.30pm

£3 adults; £2 children

No comments: