Wednesday, 28 May 2008

Gwersi a thrwsio offerynau / Instrument Tuition and Repair


Mae Chris Shaw yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau hyfforddiant a thrwsio offerynnau a chribellau.

Mae ganddo 47 mlynedd o brofiad mewn chwarae gîtar acwstig, trydan a bâs mewn amryw ddulliau yn cynnwys y blŵs, gwerin, ffync, reggae, roc, roc-a-rôl, ac mae’n chwarae’r mandolin gyda’r Boggy Mountain Boys.

Mae’r ffocws ar ddysgu’r offeryn a datblygu perthynas â hi, nid yw’n gweithio ar gyfer arholiadau neu raddau er fod cyfarwyddiadau mewn theori cerddoriaeth a thabl nodiant ar gael (ond ddim yn orfodol). Ei arwyddair yw
“Mae cerddoriaeth i fod yn bleser.”

Parthed trwsio offerynnau â chribellau, bu iddo redeg adran drwsio (yr Ysbyty Gîtar) mewn siop ym Manceinion am 10 mlynedd ac bellach mae’n gweithio o’i weithdy adref. Mae gwersi cynnal a chadw offerynnau ar gael hefyd.

Os am gymryd rhan yna cysylltwch a ni yma 01341 421800.

------------------------------------------------------------------------------

Chris Shaw is now offering a range of tuition and luthiery services for fretted instruments.

He has 47 years experience of playing acoustic and electric guitars and basses in a variety of genres including Blues,Folk, Funk, Reggae, Rock, Rock'n'Roll and is currently playing mandolin with The Boggy Mountain Boys.

The focus is on learning the instrument and forming a relationship with it, he does not work for exams or grades though instruction in music theory and tablature is available (but not obligatory). His motto is
“Music is meant to be a pleasure.”

On the luthiery side he ran a repair department (The Guitar Hospital) in a Manchester music store for 10 years and now works from his home workshop. Instrument maintenance lessons are available.

If you would like to participate then contact 01341 421800

Friday, 23 May 2008

Y Delyn Orau?


Rydym ni yma yn Nhy Siamas yn falch o gydweithio gyda cwmni Cymreig Telynau Teifi - yr unig gwmni sydd yn cynhyrchu telynau ar raddfa lled eang.
Mae'r telynau yn rhai arbennig sydd ag iddyn nhw sain godidog, ac yn cario, ac maen't wedi cael eu gwneud i'r safon uchaf yn Llandysul, Dyffryn Teifi.
Mae rhai o brif delynorion Cymru yn canu telynau y cwmni yma yn cynnwys gwenan Gibbard, Harriet Earis a Sioned Webb.
Ry'n ni wedi gwerthu un arall yma heddiw! Doth dynes i fewn yn awyddus i ddatblygu eu doniau ar y delyn ac am brynu y delyn orau ac mi ddewisodd hi yr Eos, llun i'r chwith, gan Telynau Teifi. Rwy'n gwbl argyhoeddiedig y bydd hi wrth ei bodd a safon y cynnyrch ac y caiff flynyddoedd o foddhad allan o'r offeryn godidog yma.
Os ydych chi am brynu unrhyw rai o delynau Telynau Teifi neu offerynau eraill, yna cysylltwch a ni yma yn Nhy Siamas, neu ewch i wefan Telynau Teifi: www.telynauteifi.co.uk.
Here at Ty Siamas we are happy to work alongside the only major harp producer in Wales, Telynau Teifi of Llandysul.
They are wonderful instruments that have a fantsatic sound to them, and are made to the highest standards.
Some of Wales' foremost harpists play a Telyn Teifi harp including Gwenan Gibbard, Harriet Earis and Sioned Webb.
We've just sold another one today! A customer came in wanting to develop her harp playing abilities and wanting to buy the best harp - she opted for the Eos by Telynau Teifi, image above. I'm know that she will be pleased with the standard of the product and am sure that she will have years of happy playing in front of her.
If you wish to buy, rent or try a Telynau Teifi harp, or any other instrument, then just call by or visit the Telynau Teifi website www.welsh-harps.com.

Tuesday, 20 May 2008

Coffi lleol, Coffi da! Local Coffee, Good Coffe!

Rydym ni newydd gytuno gyda chwmni o orllewin Cymru i ddarparu Coffi i ni yma yn Nhy Siamas, ac mae'n nhw wedi bod i fewn heddiw yn darparu'r peiriant esspresso anhygoel yma fydd yn darparu y coffi gorau yr ochr yma i'r Eidal!

Allaways (www.caferio.co.uk/) yw'r cwmni, sydd wedi eu lleoli yn Nhanygroes, Ceredigion, ac mae'n nhw'n darparu coffi masnach deg i ni.
Ry'n ni wedi cael ymholiadau di-ri am goffi llaeth (milky coffee) dros y misoedd diwethaf, ac o'r diwedd rydym mewn sefyllfa i allu darparu yn unol a gofynion ein cwsmeriaid.
Dewch yn llun i flasu ein coffi hyfryd!
We have just made an agreement with a west Wales company to supply us with first class fair trade coffee here at Ty Siamas, and they came in today to fit the fantastic esspresso machine that will produce the best coffee this side of Italy!
The company are called Allaways (www.caferio.co.uk) and they are based in Tanygroes, Ceredigion.
We've received numerous requests for 'milky coffee' over the last few months, and at last we are in a position to deliver.
Come along and taste our wonderful coffee!

Sunday, 18 May 2008

Alan Ison & the Backroom Boys

English Below

Noson arbennig neithiwr yng nghwmni Alan Ison a'r bois. Noson o gerddoriaeth Gwyddelig ac Old Time. Yn anffodus bu i'r bont y bas dwbl dori ar ol y ddwy gan gyntaf, ond llwyddwyd iw drwsio mewn pryd, diolch byth!

Criw da yn gwrando a mwynhau hefyd.

Noson wahanol i gyngerdd ffurfiol, gyda'r drysau yn lled y pen ar agor a rhwydd hynt i bobl fynd mewn ag allan rhwng y gerddoriaeth a'r bar. Roedd hefyd am ddim.

Ry'm ni'n gobeithio datblygu y math yma o gerddoriaeth ymhellach, gan ei fod yn rhoi llwyfan i ddoniau lleol - wedi dweud hynny, roedd y bois yma yn broffesiynol eu natur ac yn brofiadol iawn. Rwy'n mawr obeithio y don nhw yn ol heb fod yn hir!

os ydych chi am gael gafael ar y cerddorion yma ar gyfer cyngerdd yr ydych chi'n ei drefnu, yna cysylltwch a ni yma yn Nhy Siamas.

-----------------------

A great night last night in the company of Alan Ison and the Boys. A night of Irish and Old Time music. Unfortunately the double bassist's bridge broke a couple of songs into the set, but thankfully they managed to repair it!

There was a good crowd present as well appreciating the music.

It was a different night from our more formal concerts with the doord wide open and easy access for people to go to and from the bar and the music room. It was also free.

We're hoping to develop more of these kinds of nights, because it gives local and new talents a stage - having said that these boys were very professional in their attitude, and very experienced - I'm hoping that they'll come back soon!

If you would like to get hold of these guys for a concert or an occasion that your organising, then contact us and we'll help you out.

Saturday, 17 May 2008

Toriadau Grantiau y Celfyddydau / Arts Grant Cuts

English Below

Wedi mynychu cyfarfod Cyngor Celfyddydau Cymru yn Theatr Clwyd yn ystod yr wythnos - Cyfarfod Cyflwynwyr y Gogledd, sef gwahanol theatrau a llwyfanau yng ngogledd Cymru.

Roedd yn braf cael gweld Rheolwyr llefydd cyffelyb eraill, rhanu syniadau a gweld eu bont hwythau yn wynebu yr un trafferthion a ninnau yma, sef yw y gwyn cyson fod grantiau yn cael eu torri a'r arian yn cael eu neulltuo ar gyfer yr Olympics yn Llundain.

Rwy wedi mynychu amryw o gyfarfodydd y celfyddydau dros y misoedd diwethaf, a does dim un gair da wedi cael ei ddweud ynghylch yr Olympics. Mae'r ffars am brofi i fod yn hynod niweidiol i'r Celfyddydau yng Nghymru, yn anffodus.

Rwy'n derbyn fod posib edrych ar hyn mewn ffordd gwahanol, a cheisio gwneud canolfanau celfyddydol yn fwy hunan gynhaliol heb orfod fod yn ddibynol ar arian grant. Ond 'dyw hyn ddim yn deg ychwaith, oherwydd ermwyn bod yn hunan gynhaliol yn y byd Eingl-Americanaidd unffurf sydd ohoni golyga hyn fod yn rhaid apelio at y marchnadoedd mwyaf poblogaidd. Mae hyn yn ei dro yn golygu fod yn rhaid i nifer o sefydliadau celfyddydol arbenigol wyro i ffwrdd o'u gweledigaeth a phwrpasau gwreiddiol ermwyn sicrhau fod dwy benllinyn yn cwrdd. Ry'n ni'n sicr yn gorfod gwneud hynny yma yn Nhy Siamas. Y cwestiwn wedyn yw faint gall y sefydliad hynny wyro oddi wrth y weledigaeth wreiddiol tan fod y weledigaeth hwnnw yn anghof ac fod y sefydliad yn bodoli er lles bodoli yn unig.

Mewn cenedl a diwylliant iach rhaid cael darpariaeth celfyddydol ar gyfer pob chwaeth, ac mae hyn yn golygu chweithiau arbenigol iawn weithiau. Dyw trefn gyfalafol ddim am gynnal celfyffydau mwy arbenigol gan nad yw'r 'critical mass' yno i roi sicrwydd economaidd. Rhaid derbyn felly fod Llywodraeth Ganolog yn gorfod arianu y celfyddydau yn effeithiol ermwyn caniatau i'n diwyllianau ddatblygu ac esblygu iw photensial llawn. Peryg y cwtogi sylweddol yma ar arian y Celfyddydau yw y byddwn ni yn mynd yn fwy fwy unffurf, a di-liw. Byd trist yw byd heb liw.

----------------------------------------

I attended the Arts Council’s north Wales Presenter’s Meeting at Theatre Clwyd during the week, which is a meeting for arts venues in north Wales.

It was nice to see Managers and Organisers of other similar venues to ours, share ideas and see that they too face the same troubles that we do, which is the by now constant complaint that grants are being cut in order to fund the Olympic Games in London.

I’ve attended numerous arts meetings over the last few months, and nobody has said a good word about the Olympics. The farce will prove to be terribly damaging to the Arts in Wales unfortunately.

I accept that there is another way to look at the grant cuts, which is that the situation forces arts centres to be self sufficient without being dependent on grant funding, and that is exactly what we are trying to do here, which is to develop other revenue streams. But it’s not right either, because to be self sufficient in this Anglo-American uniformed world it means that one must appeal to the most popular markets. This, in turn, means a number of the more specialised arts centres have to veer away from their original vision and purpose in order to develop more lucrative revenue streams just to keep the books balancing. We certainly have to do so here at Ty Siamas. The question then is how much can or should these organisations veer from their original aims, objectives and vision until that vision has been lost completely and the organisation exists simply in order to exist?

A healthy country and culture needs provision for all tastes, which sometimes means specialised tastes. The capitalist order will not support or maintain specialised arts because the critical mass isn’t available to provide it with any sort of economic certainty. We must therefore accept that it is the role of Central Government to effectively finance the arts in order for our culture to flourish and evolve to its full potential. The danger with the current cutbacks in the arts is that we will become more and more uniformed and dull. A dull world is a very sad world.

Friday, 16 May 2008

Jim Moray & ATYA




English Below
Noson arbennig neithiwr yng nghwmni Jim Moray ac ATYA.

Noddwyd y noson gan Noson Allan - cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gwerthwyd y noson allan, gyda twr o bobl lleol yn dod i wrando ar ATYA, ac yn anffodus gorfod i ni droi pobl i ffwrdd wrth y drws! Roedd hi'n braf felly eu bod nhw hefyd yn cael cyfle i weld a chlywed un o brif berfformwyr gwerin Lloegr yn perfformio yma. Rhoddodd berfformiad arbennig chwarae teg iddo gyda'i fand talentog. Does dim syndod ei fod yn ennill gymaint o glod!

Mae ATYA yn fand tynn ac arbennig o dda hefyd. Mae nhw wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd, ond wedi ail uno eto yn ddiweddar. Dim dyma'r tro cyntaf iddyn nhw berfformio yma yn Nhy Siamas, ac maen't wedi recordio yn y stiwdio yma gyda'r technegydd Ed Arnold hefyd.

Roedd i'r noson awyrgylch braf gyda ymwelwyr o Decsas a chriw bobl ifanc o Sardinia, Romania, a'r Ffindir wedi mynychu, gan arwain sesiwn o ganu yn y bar ar ddiwedd y noson!

Bydd Jim yn perfformio yn y Sage Gateshead heno, a bydd cyfle i glywed set acwstic gan ATYA ar lwyfan Ty Siamas yn y Sesiwn Fawr eleni - 19 Gorffennaf.
-------------------------------------------
An amazing night last night with Jim Moray and ATYA!
The event was sponsored by the Arts Council's Night Out Scheme.
It was another sellout with a crowd of local people coming to support ATYA, and unfortunately we had to turn people away at the door! It was nice for the local crowd to ehar and see one of England's foremost folk artists performing here. He gave a stunning performance with his extremely talented band. It's no surprise that he's won so many awards.
ATYA are also a tight and talented band. They've been around for a while, but have recently re-formed. This was their second performance at the venue, and they've also recorded here with Ed Arnold.
The event had a lovely atmosphere with visitors from Texas and young people from Sardinia, Romania and Finland attending and leading a sing-along in the bar at the end.
Jim will be performing at the Sage Gateshead tonight, and there will be another opportunity to here ATYA performing here during the Sesiwn Fawr festival, 19 July.

Tuesday, 13 May 2008

Cerddor Pen Stryd / Busking

English Below

Eisiau llwyfan yn Nolgellau?
Cyfle i ennill arian poced ychwanegol yr haf yma?
Beth am ddod i Dy Siamas, Dolgellau, i ganu o dan y bwa ar Sgwar prysur yn llawn twristiaid, ger y prif safle fysus, gyda chysgod dros eich pen?

Mae Ty Siamas yn cynnig cyfle i gerddorion ddod i fysgio y tu allan i'r ganolfan dros gyfnod yr haf.

Os yn ddisgybl neu fyfyriwr cewch y cyfle am ddim. Y gost i eraill yw £5 y diwrnod am fis Gorffennaf, a £10 y diwrnod drwy mis Awst. Cewch baned o de/coffi a bisged am ddim.

Os am gymryd mantais o'r cyfle arbennig yma cysylltwch a ni yn Nhy Siamas oleiaf bythefnos o flaen llaw i archebu eich diwrnod perfformio.

01341 421800
mabon@tysiamas.com

-----------------------------------------------------------

Want to perform at Dolgellau?
A chance to earn some extra pocket money over the summer?
Why not come to Ty Siamas, Dolgellau, to perform "underneath the Arches" on the busy square full of visitors.

Ty Siamas have are providing this unique opportunity for musicians to come and busk at the centre over the summer months.

Pupils and Students will be allowed to perform free of charge. The price for others is £5 a day in July, and £10 a day in August. Tea/Coffee and a biscuit will be provided.

If you would like to take advantage of this opportunity please contact us here at least a fortnight in advance to book you performance date.

01341 421800
mabon@tysiamas.com

Croeso / Welcome

English below

Helo a chroeso i flog Ty Siamas.
Pwrpas y blog yw i ddiweddaru pobl ynghylch datblygiadau diweddaraf Ty Siamas; holi cwestiynau; hysbysebu digwyddiadau; a mwydro yn gyffredinol.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau.

Mi wna i ddechrau gyda hysbys!

------------------------------------------

Hello and welcome to the Ty Siamas blog.
Its purpose is to update people with news and events; ask questions; advertise and general musings.

We hope that you'll enjoy.

I shall start with an advert!