English Below
Noson arbennig neithiwr yng nghwmni Jim Moray ac ATYA.
Noddwyd y noson gan Noson Allan - cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru.
Gwerthwyd y noson allan, gyda twr o bobl lleol yn dod i wrando ar ATYA, ac yn anffodus gorfod i ni droi pobl i ffwrdd wrth y drws! Roedd hi'n braf felly eu bod nhw hefyd yn cael cyfle i weld a chlywed un o brif berfformwyr gwerin Lloegr yn perfformio yma. Rhoddodd berfformiad arbennig chwarae teg iddo gyda'i fand talentog. Does dim syndod ei fod yn ennill gymaint o glod!
Mae ATYA yn fand tynn ac arbennig o dda hefyd. Mae nhw wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd, ond wedi ail uno eto yn ddiweddar. Dim dyma'r tro cyntaf iddyn nhw berfformio yma yn Nhy Siamas, ac maen't wedi recordio yn y stiwdio yma gyda'r technegydd Ed Arnold hefyd.
Roedd i'r noson awyrgylch braf gyda ymwelwyr o Decsas a chriw bobl ifanc o Sardinia, Romania, a'r Ffindir wedi mynychu, gan arwain sesiwn o ganu yn y bar ar ddiwedd y noson!
Bydd Jim yn perfformio yn y Sage Gateshead heno, a bydd cyfle i glywed set acwstic gan ATYA ar lwyfan Ty Siamas yn y Sesiwn Fawr eleni - 19 Gorffennaf.
-------------------------------------------
An amazing night last night with Jim Moray and ATYA!
The event was sponsored by the Arts Council's Night Out Scheme.
It was another sellout with a crowd of local people coming to support ATYA, and unfortunately we had to turn people away at the door! It was nice for the local crowd to ehar and see one of England's foremost folk artists performing here. He gave a stunning performance with his extremely talented band. It's no surprise that he's won so many awards.
ATYA are also a tight and talented band. They've been around for a while, but have recently re-formed. This was their second performance at the venue, and they've also recorded here with Ed Arnold.
The event had a lovely atmosphere with visitors from Texas and young people from Sardinia, Romania and Finland attending and leading a sing-along in the bar at the end.
Jim will be performing at the Sage Gateshead tonight, and there will be another opportunity to here ATYA performing here during the Sesiwn Fawr festival, 19 July.
No comments:
Post a Comment