Saturday, 17 May 2008

Toriadau Grantiau y Celfyddydau / Arts Grant Cuts

English Below

Wedi mynychu cyfarfod Cyngor Celfyddydau Cymru yn Theatr Clwyd yn ystod yr wythnos - Cyfarfod Cyflwynwyr y Gogledd, sef gwahanol theatrau a llwyfanau yng ngogledd Cymru.

Roedd yn braf cael gweld Rheolwyr llefydd cyffelyb eraill, rhanu syniadau a gweld eu bont hwythau yn wynebu yr un trafferthion a ninnau yma, sef yw y gwyn cyson fod grantiau yn cael eu torri a'r arian yn cael eu neulltuo ar gyfer yr Olympics yn Llundain.

Rwy wedi mynychu amryw o gyfarfodydd y celfyddydau dros y misoedd diwethaf, a does dim un gair da wedi cael ei ddweud ynghylch yr Olympics. Mae'r ffars am brofi i fod yn hynod niweidiol i'r Celfyddydau yng Nghymru, yn anffodus.

Rwy'n derbyn fod posib edrych ar hyn mewn ffordd gwahanol, a cheisio gwneud canolfanau celfyddydol yn fwy hunan gynhaliol heb orfod fod yn ddibynol ar arian grant. Ond 'dyw hyn ddim yn deg ychwaith, oherwydd ermwyn bod yn hunan gynhaliol yn y byd Eingl-Americanaidd unffurf sydd ohoni golyga hyn fod yn rhaid apelio at y marchnadoedd mwyaf poblogaidd. Mae hyn yn ei dro yn golygu fod yn rhaid i nifer o sefydliadau celfyddydol arbenigol wyro i ffwrdd o'u gweledigaeth a phwrpasau gwreiddiol ermwyn sicrhau fod dwy benllinyn yn cwrdd. Ry'n ni'n sicr yn gorfod gwneud hynny yma yn Nhy Siamas. Y cwestiwn wedyn yw faint gall y sefydliad hynny wyro oddi wrth y weledigaeth wreiddiol tan fod y weledigaeth hwnnw yn anghof ac fod y sefydliad yn bodoli er lles bodoli yn unig.

Mewn cenedl a diwylliant iach rhaid cael darpariaeth celfyddydol ar gyfer pob chwaeth, ac mae hyn yn golygu chweithiau arbenigol iawn weithiau. Dyw trefn gyfalafol ddim am gynnal celfyffydau mwy arbenigol gan nad yw'r 'critical mass' yno i roi sicrwydd economaidd. Rhaid derbyn felly fod Llywodraeth Ganolog yn gorfod arianu y celfyddydau yn effeithiol ermwyn caniatau i'n diwyllianau ddatblygu ac esblygu iw photensial llawn. Peryg y cwtogi sylweddol yma ar arian y Celfyddydau yw y byddwn ni yn mynd yn fwy fwy unffurf, a di-liw. Byd trist yw byd heb liw.

----------------------------------------

I attended the Arts Council’s north Wales Presenter’s Meeting at Theatre Clwyd during the week, which is a meeting for arts venues in north Wales.

It was nice to see Managers and Organisers of other similar venues to ours, share ideas and see that they too face the same troubles that we do, which is the by now constant complaint that grants are being cut in order to fund the Olympic Games in London.

I’ve attended numerous arts meetings over the last few months, and nobody has said a good word about the Olympics. The farce will prove to be terribly damaging to the Arts in Wales unfortunately.

I accept that there is another way to look at the grant cuts, which is that the situation forces arts centres to be self sufficient without being dependent on grant funding, and that is exactly what we are trying to do here, which is to develop other revenue streams. But it’s not right either, because to be self sufficient in this Anglo-American uniformed world it means that one must appeal to the most popular markets. This, in turn, means a number of the more specialised arts centres have to veer away from their original vision and purpose in order to develop more lucrative revenue streams just to keep the books balancing. We certainly have to do so here at Ty Siamas. The question then is how much can or should these organisations veer from their original aims, objectives and vision until that vision has been lost completely and the organisation exists simply in order to exist?

A healthy country and culture needs provision for all tastes, which sometimes means specialised tastes. The capitalist order will not support or maintain specialised arts because the critical mass isn’t available to provide it with any sort of economic certainty. We must therefore accept that it is the role of Central Government to effectively finance the arts in order for our culture to flourish and evolve to its full potential. The danger with the current cutbacks in the arts is that we will become more and more uniformed and dull. A dull world is a very sad world.

No comments: