Sunday 18 May 2008

Alan Ison & the Backroom Boys

English Below

Noson arbennig neithiwr yng nghwmni Alan Ison a'r bois. Noson o gerddoriaeth Gwyddelig ac Old Time. Yn anffodus bu i'r bont y bas dwbl dori ar ol y ddwy gan gyntaf, ond llwyddwyd iw drwsio mewn pryd, diolch byth!

Criw da yn gwrando a mwynhau hefyd.

Noson wahanol i gyngerdd ffurfiol, gyda'r drysau yn lled y pen ar agor a rhwydd hynt i bobl fynd mewn ag allan rhwng y gerddoriaeth a'r bar. Roedd hefyd am ddim.

Ry'm ni'n gobeithio datblygu y math yma o gerddoriaeth ymhellach, gan ei fod yn rhoi llwyfan i ddoniau lleol - wedi dweud hynny, roedd y bois yma yn broffesiynol eu natur ac yn brofiadol iawn. Rwy'n mawr obeithio y don nhw yn ol heb fod yn hir!

os ydych chi am gael gafael ar y cerddorion yma ar gyfer cyngerdd yr ydych chi'n ei drefnu, yna cysylltwch a ni yma yn Nhy Siamas.

-----------------------

A great night last night in the company of Alan Ison and the Boys. A night of Irish and Old Time music. Unfortunately the double bassist's bridge broke a couple of songs into the set, but thankfully they managed to repair it!

There was a good crowd present as well appreciating the music.

It was a different night from our more formal concerts with the doord wide open and easy access for people to go to and from the bar and the music room. It was also free.

We're hoping to develop more of these kinds of nights, because it gives local and new talents a stage - having said that these boys were very professional in their attitude, and very experienced - I'm hoping that they'll come back soon!

If you would like to get hold of these guys for a concert or an occasion that your organising, then contact us and we'll help you out.

No comments: