Friday 23 May 2008

Y Delyn Orau?


Rydym ni yma yn Nhy Siamas yn falch o gydweithio gyda cwmni Cymreig Telynau Teifi - yr unig gwmni sydd yn cynhyrchu telynau ar raddfa lled eang.
Mae'r telynau yn rhai arbennig sydd ag iddyn nhw sain godidog, ac yn cario, ac maen't wedi cael eu gwneud i'r safon uchaf yn Llandysul, Dyffryn Teifi.
Mae rhai o brif delynorion Cymru yn canu telynau y cwmni yma yn cynnwys gwenan Gibbard, Harriet Earis a Sioned Webb.
Ry'n ni wedi gwerthu un arall yma heddiw! Doth dynes i fewn yn awyddus i ddatblygu eu doniau ar y delyn ac am brynu y delyn orau ac mi ddewisodd hi yr Eos, llun i'r chwith, gan Telynau Teifi. Rwy'n gwbl argyhoeddiedig y bydd hi wrth ei bodd a safon y cynnyrch ac y caiff flynyddoedd o foddhad allan o'r offeryn godidog yma.
Os ydych chi am brynu unrhyw rai o delynau Telynau Teifi neu offerynau eraill, yna cysylltwch a ni yma yn Nhy Siamas, neu ewch i wefan Telynau Teifi: www.telynauteifi.co.uk.
Here at Ty Siamas we are happy to work alongside the only major harp producer in Wales, Telynau Teifi of Llandysul.
They are wonderful instruments that have a fantsatic sound to them, and are made to the highest standards.
Some of Wales' foremost harpists play a Telyn Teifi harp including Gwenan Gibbard, Harriet Earis and Sioned Webb.
We've just sold another one today! A customer came in wanting to develop her harp playing abilities and wanting to buy the best harp - she opted for the Eos by Telynau Teifi, image above. I'm know that she will be pleased with the standard of the product and am sure that she will have years of happy playing in front of her.
If you wish to buy, rent or try a Telynau Teifi harp, or any other instrument, then just call by or visit the Telynau Teifi website www.welsh-harps.com.

No comments: